Deiseb a gwblhawyd Caniatáu i’r holl sŵau ac atyniadau bywyd gwyllt ailagor gyda chamau cadw pellter cymdeithasol ar waith ledled Cymru.

Mae’n hanfodol bod sŵau ac atyniadau bywyd gwyllt, gyda’u herwau o dir a mannau agored eang, yn cael caniatâd ar unwaith i ailagor. Gyda chamau cadw pellter cymdeithasol ar waith, gallai’r cyfleusterau hyn fod yn fwy diogel na chyfleusterau eraill, megis marchnadoedd awyr agored, sydd eisoes wedi cael caniatâd i ailagor.

Rhagor o fanylion

Mae sŵau â rhan hanfodol ym maes cadwraeth, yng Nghymru a ledled y byd. Mae sefydliadau’n gwario miliynau bob blwyddyn yn ariannu gwaith cadwraeth sy’n helpu i ddiogelu cynefinoedd ac anifeiliaid mewn perygl difrifol.
Mae’r gwaith cadwraeth hwn wedi dod dan fygythiad oherwydd bod sŵau wedi parhau i fod ar gau oherwydd diffyg cymorth gan y llywodraeth.
Nid yw’r gost o ofalu am anifeiliaid yn diflannu pan nad yw ymwelwyr yno ac mae’n hanfodol y cânt ailagor ar unwaith.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

248 llofnod

Dangos ar fap

5,000