Deiseb a gwblhawyd Dylid rhoi’r gorau i ymgynghoriadau o bell sy’n gwahaniaethu o ran ceisiadau llosgyddion yn ystod y pandemig Covid-19

Cyhoeddwyd, oherwydd COVID-19, bod ymgeisydd am losgydd mawr yn bwriadu cynnal ymgynghoriad cynllunio "o bell". O dan ddeddfwriaeth Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol, caniateir hyn. Oherwydd Covid-19, ni fydd y Cynghorydd Sir na’r Cyngor Cymuned yn gallu cynnal cyfarfodydd cyhoeddus na chyfarfodydd wyneb yn wyneb â thrigolion. Mae hwn yn gais technegol ac arwyddocaol iawn i nifer. Mae’n annheg / gwahaniaethu yn erbyn yr henoed, pobl anabl a phobl sy’n cael eu gwarchod rhag y feirws i ymgynghori o bell yn ystod y cyfnod hwn.

Rhagor o fanylion

Efallai na fydd rhai preswylwyr oedrannus yn defnyddio’r rhyngrwyd nac yn gallu cael mynediad ato. Efallai na fydd rhai yn teimlo’n gyfforddus yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn dros y ffôn. Mae ceisiadau o ran llosgyddion yn dechnegol iawn eu natur, felly roedd y Cynghorydd Sir a’r Cyngor Cymuned wedi bwriadu cynnal cyfarfodydd cyhoeddus i sicrhau bod yr holl breswylwyr yn gallu deall a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Roedd yr ymgeisydd am y llosgydd hefyd wedi nodi o’r blaen y byddai’n cynnal cyfarfod cyhoeddus a digwyddiadau ‘galw heibio’. Ni chaniateir hyn oherwydd Covid-19.
Ymhellach, mae’r mater hwn wedi bod ar y gweill ers nifer o flynyddoedd. Ni fyddai’n afresymol i Arolygiaeth Cynllunio Llywodraeth Cymru ohirio’r ymgynghoriad hwn nes bod cyfarfodydd cyhoeddus a chyfarfodydd wyneb yn wyneb yn cael eu caniatáu ac yn ddiogel eto. Byddai hyn er budd y cyhoedd. Byddai’n sicrhau bod gan breswylwyr oedrannus a’r rheini sydd ag anableddau neu a allai fod yn cael eu gwarchod rhag y feirws fynediad teg i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn pe dymunent.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

392 llofnod

Dangos ar fap

5,000