Deiseb a gwblhawyd Ymestyn grantiau ar unwaith i fusnesau bach yng Nghymru nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach

Dylid rhoi disgresiwn i awdurdodau lleol i ddyfarnu grant rhyddhad ardrethi busnesau bach i fusnesau sy’n talu ardrethi drwy eu rhent, gan roi’r un cymorth iddyn nhw ag a roddir i bob busnes arall.

Rhagor o fanylion

Cyhoeddodd Llywodraeth Geidwadol Lloegr fod busnesau sy’n talu eu hardrethi drwy rent yn cael cam, felly aed i’r afael â hyn drwy roi disgresiwn i awdurdodau lleol ddyfarnu’r grant a helpu i’w hachub. Hyd yma, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwrthod gwneud hyn.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

130 llofnod

Dangos ar fap

5,000