Deiseb a gwblhawyd Rhowch gymorth grant i fusnesau Gwely a Brecwast yng Nghymru sy'n talu’r dreth gyngor ac nid ardrethi busnes

Nid yw rhai busnesau yng Nghymru yn cael unrhyw gymorth grant o gwbl. Dyma ail flwyddyn fy musnes, ac aeth elw fy mlwyddyn gyntaf yn ôl i fuddsoddi yn fy musnes. Nid wyf wedi cofrestru ar TAW nac yn gwmni cyfyngedig, nid wyf yn cyflogi neb, ac nid oes dim grantiau ar gael i mi. Mae’r dreth gyngor yn cael ei chyfrif fel ail gartref. Rwy'n talu premiwm er bod y busnes 10 metr i ffwrdd o’m cartref. Nid ydym wedi cael gwesteion ers 20 Hydref. Nid oes gennym ddim syniad pryd y gallwn ailagor, ond mae gennym rent ac ati i'w dalu o hyd. Mae angen help arnom nawr ac ar gyfer y dyfodol.

Rhagor o fanylion

Mae talwyr ardrethi busnes ar ail gartrefi yn cael grant o naill ai £10,000 neu £25,000 a gall hyn fod ar eiddo nad ydyn nhw o reidrwydd yn cael eu defnyddio fel llety hunanarlwyo. Fy musnes Gwely a Brecwast yw fy unig ffynhonnell incwm, ac fel y mwyafrif o bobl mae’r incwm hwn wedi diflannu.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

86 llofnod

Dangos ar fap

5,000