Deiseb a gwblhawyd Dylai rôl Cymru yn hanes trefedigaethol Prydain fod yn bwnc gorfodol mewn ysgolion.

Ar hyn o bryd mae'r ddadl ynghylch hil yn flaenllaw ym meddyliau pawb. Mae’r rhan fwyaf o’r boblogaeth yn wyn, sy’n golygu ein bod mewn sefyllfa ffodus oherwydd mae meddwl am hil yn fater o ddewis. I lawer yn y gymuned BAME nid dewis yw hwn, ond ffaith a wynebir bob dydd. Chwaraeodd Cymru a phobl Cymru ran weithredol yn hanes trefedigaethol Prydain. Yn ddiweddarach, dathlwyd ffigurau fel Thomas Picton gyda cherfluniau.

Rhagor o fanylion

Mae’r rhan hon o’n hanes yn llawn cymhlethdodau ac mae llawer o wirioneddau anghyfforddus y mae'n rhaid i ni fel poblogaeth fynd i'r afael â nhw a chraffu arnynt. Mae llawer o bobl o’r farn bod hiliaeth a gwahaniaethu ar sail hil yn broblem mewn gwledydd eraill ond nid yma. Rwy'n credu bod cysylltiad cryf rhwng hyn a diffyg addysg am hanes trefedigaethol y wlad hon.
Mae deiseb debyg yn casglu llofnodion ac yn galw ar lywodraeth y DU i weithredu. Rwy'n credu y dylem hefyd fynd i'r afael â hyn yma fel mater datganoledig.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

50 llofnod

Dangos ar fap

10,000