Deiseb a wrthodwyd Dylai agor eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Cadw fod ymhlith y blaenoriaethau wrth lacio’r cyfyngiadau symud yng Nghymru

Mewn gwledydd eraill, parciau oedd y cyntaf i agor ar ôl y cyfnod o gyfyngiadau symud o ganlyniad i’r pandemig. Beth am wneud hynny yng Nghymru?

Ymhle mae’r rhesymeg mewn caniatáu i siopau bach nad ydynt yn hanfodol i agor, ond cadw parciau a safleoedd hanesyddol ar gau?

Wrth reswm, mae llawer mwy o berygl y cewch eich heintio mewn man cyfyng a bach, yn hytrach nag mewn man agored ac eang!

Mae mesurau eisoes ar waith yn eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Cadw i wneud yn siŵr bod staff ac ymwelwyr yn ddiogel wrth y fynedfa. Mae’r sefydliadau hynny’n llythrennol yn disgwyl am ganiatâd y Senedd i fwrw ati.

Rhagor o fanylion

Yn ôl y dystiolaeth, ni fu cynnydd pellach yn nifer yr achosion o’r Coronafeirws yn y gwledydd hynny wnaeth ganiatáu i barciau agor yn dilyn y cyfnod o gyfyngiadau symud.

At hynny, mae’r mwyafrif helaeth o drigolion Cymru wedi dangos bod ganddynt y ddisgyblaeth angenrheidiol i gydweithredu â’r cyfarwyddiadau ciwio, cadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo.

Peidiwch ag anghofio ychwaith fod eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Cadw, er enghraifft Gardd Bodnant yn Sir Conwy, yn endidau economaidd sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud.

Dangoswch eich cefnogaeth trwy lofnodi’r ddeiseb, fel bod ein Senedd yn ymwybodol o’r brys i ganiatáu i safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Cadw agor eto yn ystod y cam nesaf o lacio’r cyfyngiadau symud yng Nghymru. Diolch yn fawr.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi