Deiseb a gwblhawyd Darparu gofal plant i weithiwr allweddol sy'n cyfateb i'r hyn a oedd ar gael cyn pandemig Covid-19

Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi cyhoeddi y bwriedir ailagor ysgolion ar 29 Mehefin. O ddydd Llun 22 Mehefin, bydd oriau agor ysgolion hyb sy'n darparu gofal plant i blant gweithwyr allweddol yn cael eu lleihau, mewn rhai ardaloedd, o 0800 - 1800 i 0830 - 1600. Bydd hyn yn cosbi gweithwyr allweddol nad ydynt yn gallu cael mynediad at y lefelau o ofal plant a oedd ar gael cyn pandemig Covid-19; ni fydd gweithwyr allweddol yn gallu cyflawni eu horiau gwaith arferol gan arwain at effaith niweidiol ar wasanaethau hanfodol.

Rhagor o fanylion

Ar ôl darparu gwasanaeth gofal i blant gweithwyr allweddol rhwng 8.00 a 18.00, mae methiant Senedd Cymru i ddarparu trefniadau pellach ar gyfer gofal plant o fewn yr oriau hyn, neu o leiaf cyfwerth â'r oriau o ofal a ddarparwyd mewn ysgolion unigol yn union cyn argyfwng Covid-19, yn cosbi gweithwyr allweddol sy’n gweithio’n galed. Heb ymdrech, ymroddiad ac aberth aruthrol y gweithwyr allweddol hyn i gynnal gwasanaethau hanfodol drwy'r pandemig byddai'r effeithiau ar y cyhoedd yn gyffredinol a chenedl falch Cymru wedi arwain at fwy fyth o farwolaethau, caledi arswydus ac amddifadedd o’r fath a fyddai wedi ac a allai achosi goblygiadau difrifol o hyd i’n cenedlaethau i ddod. Dylai mynediad at y lefel o ofal plant a oedd ar gael o’r blaen, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, clybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol ar lefel y gost a dalwyd gan rieni cyn Covid-19, fod yn gynnig sylfaenol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

719 llofnod

Dangos ar fap

5,000