Deiseb a wrthodwyd Dylid caniatáu teithio’n ddi-rwystr rhwng Cymru a Lloegr.

Mae rheoliadau gwahanol yng Nghymru a Lloegr i frwydro yn erbyn Covid-19 wedi cyfyngu ar deithio o Loegr i Gymru. Un deyrnas ydyn ni. Mae'n chwerthinllyd nad yw pobl o un rhan o'r wlad yn cael teithio i ran arall. Mae hyn wedi gwahanu anwyliaid, ac wedi difrodi ein busnesau a llif ein heconomi. Nid diogelu GIG Cymru mo hyn, mae'n dinistrio economi Cymru ac yn rhoi straen ar aelwydydd cyffredin. Gellir gweithredu camau cadw pellter cymdeithasol er mwyn cyfyngu ar ledaeniad y feirws. Nid yw gwaharddiad cyffredinol yn gwneud ffafr â neb.

Rhagor o fanylion

Mae economi Cymru yn dibynnu ar dwristiaeth a theithio’n ddi-rwystr rhwng rhannau gwahanol o'r wlad. Mae'r gwaharddiad cyffredinol hwn ar deithio o Loegr i Gymru yn gwneud difrod mawr i'r economi, ac mae goblygiadau pellgyrhaeddol iddo i fywydau pobl gyffredin ymhell i'r dyfodol. Dylid achub ein busnesau, ein haelwydydd ac economi'r wlad.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Cafodd y ddeiseb hon ei thynnu yn ôl gan y deisebydd.

Yn sgil cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ar 3 Gorffennaf y gall pobl yng Nghymru teithio y tu allan i'w hardal leol, penderfynodd y deisebydd dynnu'r ddeiseb yn ôl.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi