Deiseb a wrthodwyd Mae angen i ni dyfu ein heconomi. Llunio cais i argyhoeddi Tesla i agor gigaffatri yng Nghymru

Mae angen i ni dyfu ein heconomi. Mae angen i ni fuddsoddi mewn syniadau newydd a gwarantu cyflogaeth yn y dyfodol. Bydd hyn yn anodd iawn wrth symud ymlaen ar ôl Brexit.

Mae dyfodol mawr i geir trydan. Mae gan Tesla ddyfodol mawr.

Yr wythnos hon, yn ôl adroddiadau yn y newyddion, hedfanodd Elon Musk i Fryste i drafod agor gigaffatri ym Mryste ar safle a oedd unwaith yn safle ffatri BAE. Yn ôl yr adroddiadau, Bryste aeth ato ef.

Mae angen i ni ddangos y lefel hon o flaengaredd.

Rhagor o fanylion

Y farchnad ceir trydan yw'r dyfodol. Nid oes amheuaeth am hyn:
https://www.businessinsider.com/promises-carmakers-have-made-about-their-future-electric-vehicles-2020-1?r=US&IR=T T

Mae Tesla wedi bod ar flaen y gad o ran datblygu peirianneg ym maes ceir trydan, ac o ran batris a lle storio.

Mae SpaceX a Starlink wedi bod ar flaen y gad o ran datblygiadau ym maes lloerennau gyda'r nod o ddarparu rhyngrwyd cyflym trwy gyfrwng lloerennau. (Efallai mai dyma'r ateb i'r broblem y mae Llywodraeth Cymru wedi methu ei datrys hyd yn hyn.)

Mae Tesla, SpaceX, Starlink, ac yn wir Neuralink yn cyflogi rhai o'r peirianwyr gorau yn y byd i wireddu syniadau a fydd yn pweru'r dyfodol.

Mae angen i ni ddenu'r cwmnïau blaengar arloesol hyn i Gymru.
Rydym am i Lywodraeth Cymru ymrwymo i syniadau a fydd yn sicrhau cyflogaeth yn y dyfodol. Mae llunio cais am gigaffatri yng Nghymru yn un o'r ffyrdd ymlaen.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi