Deiseb a gwblhawyd Caniatáu i gampfeydd bach a safleoedd hyfforddi personol agor yn gynt yn ystod cyfyngiadau COVID.

Gall campfeydd bach neu fannau hyfforddi personol, fel campfeydd Crossfit, reoli’r pellter rhwng aelodau a’u trefniadau glanhau’n well na’r campfeydd masnachol mwy. Rwy’n cynnig system ar gyfer gweithio ddiogel, sef neilltuo 16 metr sgwâr (4 wrth 4) i bob cwsmer, gan sicrhau na fyddant yn symud o’r sgwâr hwnnw. Glanhau’r cyfarpar a’r llawr a ddefnyddiwyd yn drylwyr a sicrhau bod digon o amser rhwng y sesiynau. Mesur tymheredd pawb wrth iddynt gyrraedd. Neu, gellid cynnal sesiynau hyfforddi yn yr awyr agored (mae hyn yn digwydd eisoes yn Lloegr).

Rhagor o fanylion

Wrth i’r cyfyngiadau presennol gael eu llacio, a chan fod siopau diangenrhaid a siopau bwyd brys yn cael agor rydym ni, fel busnses sydd wedi buddsoddi yn y diwydiant iechyd, yn credu a byddai o fwy o fudd i’r cyhoedd, ac yn llai o rig, pe bai campfydd sy’n dilyn y model hwn yn agor yn hytrach na’r busnesau a nodir uchod. Yn wahanol i’r siopau bwyd brys, mae’n amlwg ein bod yn gwneud mwy o les na niwed i iechyd cyffredinol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

3,181 llofnod

Dangos ar fap

5,000