Deiseb a gwblhawyd Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu.

Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn cychwyn ymchwiliad llawn, annibynnol, agored a chyhoeddus o ran y llifogydd i gartrefi a busnesau ledled Rhondda Cynon Taf yn 2020, a bod camau priodol yn cael eu cymryd i unioni unrhyw broblemau fel gellid osgoi difrod tebyg rhag digwydd eto.

Rhagor o fanylion

Mae pobl a busnesau ar draws Rhondda Cynon Taf angen ymchwiliad i'r llifogydd sydd wedi taro cyn gymaint o'n cymunedau eleni, gyda rhai yn cael eu heffeithio deir gwaith ers mis Chwefror. Mae'n bryd i leisiau a phrofiadau pobl a busnesau Pontypridd, Trefforest, Ffynon Taf, Trehafod, Cilfynydd, Rhydyfelin, Nantgarw, y Ddraenen Wen, Hirwaun, Abercwmboi, Aberpennar, Pentre, Treorci, Treherbert, Maerdy, Porth ac eraill gael eu clywed, fel bod gwersi yn cael eu dysgu ar gyfer y dyfodol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

5,743 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 9 Rhagfyr 2020

Gwyliwch y ddeiseb ‘Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu.’ yn cael ei thrafod

Trafodwyd y ddeiseb gan y Senedd yn y Cyfarfod Llawn ar 9 Rhagfyr 2020.