Deiseb a gwblhawyd Dylid diweddaru’r canllawiau fel bod Canolfannau Hapchwarae i Oedolion, sy'n fusnesau teuluol, yn gymwys ar gyfer Grantiau Busnes yng Nghymru

Mae gan lawer o drefi yng Nghymru Ganolfan Hapchwarae i Oedolion. O'r holl ganolfannau felly yng Nghymru, dim ond dyrnaid sy'n rhan o gadwyn cenedlaethol; mae'r gweddill yn fusnesau teuluol.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn bendant na fydd yn diweddaru canllawiau Grant Busnes COVID i gefnogi'r canolfannau hapchwarae sy’n fusnesau teuluol. Mae canolfannau hapchwarae i oedolion hefyd wedi'u hepgor o'r Gronfa Gwydnwch Economaidd.

Mae rhai canolfannau hapchwarae yng Nghymru wedi gweithredu ers y 1980au ac mae pob un yn cyflogi pobl leol. Mae'r diffyg cefnogaeth gyfredol yn rhoi cannoedd o swyddi mewn perygl yng Nghymru.

Rhagor o fanylion

Mae canolfannau hapchwarae i oedolion wedi cael eu cynnwys yng nghynlluniau grant Lloegr a’r Alban, ac mae busnesau yn y gwledydd hynny wedi cadarnhau eu bod wedi cael y grantiau.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

706 llofnod

Dangos ar fap

5,000