Deiseb a gwblhawyd Dylid caniatáu i bartneriaid genedigaeth fod yn bresennol adeg sganiau, dechrau esgor, yn ystod yr enedigaeth ac ar ôl yr enedigaeth.

Oherwydd COVID-19, mae cyfyngiadau mewn llawer o ysbytai ar bresenoldeb partneriaid genedigaeth ar gyfer sganiau, esgor a genedigaeth.
Nid yw’r pwnc hwn wedi cael ei adolygu rhyw lawer, os o gwbl.
Mae'n ymddangos yn annheg ac yn sarhad ar deuluoedd newydd eu bod yn cael sefyll 2 fetr oddi wrth ddieithriaid llwyr ar y traeth neu mewn siop hyd yn oed, ond nid ydynt yn cael partner na phartner genedigaeth yn bresennol i rannu profiadau tro cyntaf megis gweld sgan, clywed calon y babi, esgor a genedigaeth.
Mae angen i hyn newid.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

7,326 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Penderfynodd y Pwyllgor Deisebau beidio â chyfeirio’r ddeiseb hon ar gyfer dadl

Cytunodd y Pwyllgor i ystyried y ddeiseb ymhellach drwy ohebiaeth ysgrifenedig yn sgil y ffaith bod dadl wedi'i chynnal eisoes ar yr un pwnc, a bod y ddeiseb wedi cael ei chodi yn ystod y ddadl honno: https://cofnod.senedd.cymru/Plenary/11042

Busnes arall y Senedd

Dadl yn y Cyfarfod Llawn a chanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru

Bu dadl ar Gefnogaeth i fabanod a rhieni newydd yn ystod Covid-19 ddydd Mercher 9 Rhagfyr.

Gallwch wylio’r ddadl yma: http://www.senedd.tv/Meeting/Archive/ac2561e1-edb4-46a3-ad42-1cbee0d0085a?autostart=True#

Neu gallwch ddarllen y cofnod yma: https://cofnod.cynulliad.cymru/Plenary/11042#A62991

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru ynghylch ymweld ag ysbytai yn ystod y coronafeirws, sy'n cynnwys gwybodaeth benodol am wasanaethau mamolaeth:
https://llyw.cymru/ymweld-ag-ysbytai-yn-ystod-y-coronafeirws-canllawiau-html#section-56377