Deiseb a gwblhawyd Dileu Bagloriaeth Cymru orfodol i fyfyrwyr sydd am fynd i'r Brifysgol

Er bod Bagloriaeth Cymru’n darparu llawer o sgiliau cyflogadwyedd pwysig, ac yn dda i'r rheini sy'n mynd yn syth i broffesiwn ar ôl gorffen yn y coleg, mae’n dal myfyrwyr sy'n dymuno mynd i'r brifysgol yn ôl.

Yn flaenorol, roedd myfyrwyr yn gallu astudio hyd at 4 Safon Uwch, neu hyd yn oed 5 ar gyfer y myfyrwyr gorau, ond mae Bagloriaeth Cymru yn eu cyfyngu i dri, ac mae rhai ysgolion hyd yn oed yn eu cyfyngu i 2, sy’n atal myfyrwyr rhag cael addysg eang.

Rhagor o fanylion

Byddai cael gwared ar Fagloriaeth Cymru ar gyfer y rhai sydd am fynd i’r brifysgol yn caniatáu i fyfyrwyr o Gymru nid yn unig fynd i’r prifysgolion gorau, ond cael gwell addysg hefyd. Mae Bagloriaeth Cymru yn llawn pynciau y mae myfyrwyr addysgedig eisoes yn gwybod amdanynt, ac mae'n gyfwerth ag Astudiaethau Cyffredinol i lawer o brifysgolion. Byddai cael gwared arni ar gyfer y rhai sy’n dymuno mynd i’r brifysgol yn caniatáu i fyfyrwyr fod yn fwy addysgedig. Bydd hyn yn caniatáu i ni gael gweithlu mwy addysgedig a helpu economi Cymru.

Opsiwn arall yr hoffwn ei gyflwyno i gael ei ystyried yw creu cymhwyster UG, a gwneud Bagloriaeth Cymru yn orfodol ar gyfer lefel UG yn unig, sy’n rhoi mwy o amser i fyfyrwyr ar gyfer eu harholiadau a’u galluogi i barhau i astudio 4 pwnc. Gallai ysgolion ddewis a yw hyn yn cael ei wneud dros gyfnod o ddwy flynedd neu mewn blwyddyn.

Mae pobl yn edrych i lawr ar fyfyrwyr Cymru yn gyson, a byddai cael gwell agwedd tuag at addysg (fel yr hyn a wnaed gyda chynnal y cymwysterau UG) yn caniatáu i ni fod yn gryfach a chael ein parchu'n fwy fel Cymry.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

63 llofnod

Dangos ar fap

10,000