Deiseb a gwblhawyd Rhowch fynediad cyfartal at eu hysgolion a’u hathrawon i blant gweithwyr allweddol

Mae plant gweithwyr allweddol mewn rhai rhannau o Gymru wedi’u heithrio o’r sesiynau ‘Ailgydio, Dal i Fyny, Paratoi’ yn eu hysgolion. Nid ydynt yn cael dim cyswllt wyneb yn wyneb â’u hathrawon na’u cyfeillion os oes hefyd angen i’w rhieni drefnu gofal plant ar eu cyfer er mwyn i’r rhieni hynny wneud gwaith hanfodol. Byddant yn cael gofal mewn canolfannau hamdden sydd heb ddigon o wybodaeth am ddarpariaeth o ran eu hiechyd, eu llesiant emosiynol a’u haddysg.
Dylai ysgolion gynllunio i gynnwys pob dysgwr y tymor hwn ac ym mis Medi.

Rhagor o fanylion

Mae canllawiau gan Lywodraeth Cymru ynghylch ailagor ysgolion yn datgan ‘y bydd yr holl ddysgwyr sy’n gallu gwneud hynny yn cael cyfle i fynd i’w hysgol neu eu lleoliad ar gyfer amser wyneb yn wyneb dros weddill tymor yr haf’.
https://llyw.cymru/diolgeu-addysg-canllawiau-gweithredol-i-ysgolion-lleoliadau-addysg-covid-19

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

508 llofnod

Dangos ar fap

5,000