Deiseb a wrthodwyd Rhowch waharddiad ar werthu dyfeisiau sy’n hwyluso’r camddefnydd o silindrau n2o a’i gwneud yn anghyfreithlon i feddu ar silindrau o’r fath.

Mae pobl yn gwneud camddefnydd eang o n2o (ocsid nitraidd) ac ar wahân i beryglon personol amlwg y cam-drin hwn h.y. marwolaeth, ceir gwared â’r silindrau wedyn ledled cefn gwlad, a hynny mewn niferoedd mawr fel arfer. Mae cwmnïau fel Amazon yn gwerthu’n agored ddyfeisiau sydd wedi’u cynllunio i’w gwneud yn haws i bobl amlyncu’r nwy, a dylid gwahardd dyfeisiau o’r fath. Trwy ei gwneud yn anghyfreithlon i feddu ar y silindrau hyn y tu allan i amgylchedd arlwyo, byddai’n rhoi grym i’r heddlu roi terfyn ar y camddefnydd o’r cynnyrch hwn a’r sbwriel sy’n dod yn ei sgil.

Rhagor o fanylion

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi