Deiseb a wrthodwyd Caniatáu i Barlyrau Tatŵs a Salonau Harddwch, Campfeydd a Phyllau Nofio ailagor.
Hoffem ichi ystyried ailagor Salonau Harddwch, Parlyrau Tatŵs, Campfeydd a Phyllau Nofio yng ngham nesaf strategaeth adfer Covid-19.
Rhagor o fanylion
Rwyf yn gwsmer mewn campfa a pharlwr tatŵs felly rwy’n gwybod yn iawn pa mor lân a di-haint yw’r mannau hyn. Roeddent yn cael eu glanhau a’u diheintio’n rheolaidd hyd yn oed cyn Covid-9 ac mae nifer o’r eitemau’n rhai untro, tafladwy. Teimlaf hefyd y byddai agor campfeydd a phyllau nofio yn dda i iechyd meddwl ac iechyd corfforol y genedl. Hefyd, gyda’r rhan fwyaf o’r uchod, mae’r sesiynau drwy apwyntiad yn unig, lle darperir cyfeiriadau a rhifau ffôn, felly mae tracio ac olrhain yn hawdd
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Cafodd y ddeiseb hon ei thynnu yn ôl gan y deisebydd.
Yn sgil cyhoeddiadau gan Lywodraeth Cymru ar 10 Gorffennaf a 7 Awst y gallai salonau gwallt, parlyrau tatŵio, campfeydd dan do a phyllau nofio agor o 27 Gorffennaf a 10 Awst, penderfynodd y deisebydd dynnu'r ddeiseb yn ôl.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi