Deiseb a gwblhawyd Agor ysgolion ym mis Medi. Cael gwared ar ddysgu cyfunol.

Bydd ysgolion mewn rhannau eraill o'r DU yn agor yn llawn ym mis Medi. Nid oes gan Lywodraeth Cymru gynlluniau cadarn ar gyfer hyn ac mae'n siarad yn gynyddol am weithredu dysgu cyfunol yn y tymor hwy. Mae angen i'n plant ddychwelyd i’r ysgol ym mis Medi er mwyn sicrhau nad yw plant yng Nghymru yn disgyn y tu ôl i rannau eraill o'r DU, a chaniatáu i rieni weithio a rhoi’r hawl i’w plant gael addysg go iawn. Nid yw Kirsty Williams wedi meddwl sut y bydd dysgu cyfunol yn gweithio os bydd angen i rieni weithio. Ni fydd neb am gyflogi rhieni.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

9,266 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Penderfynodd y Pwyllgor Deisebau beidio â chyfeirio’r ddeiseb hon ar gyfer dadl

Penderfynodd y Pwyllgor Deisebau beidio â threfnu dadl ar y ddeiseb oherwydd cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd pob disgybl yn dychwelyd yn llawn amser i ysgolion Cymru o fis Medi 2020 ymlaen: https://llyw.cymru/y-gweinidog-addysg-yn-cyhoeddi-cynlluniau-ar-gyfer-mynd-yn-ol-ir-ysgol-ym-mis-medi

Gellir gweld y dystiolaeth a ystyriwyd gan y Pwyllgor yma: https://busnes.senedd.cymru/ieIssueDetails.aspx?IId=29051&Opt=3