Deiseb a gwblhawyd Caniatáu i adeiladau eglwysi ailagor – er enghraifft, ar gyfer addoli ar y cyd

I Gristnogion a phobl o gymunedau ffydd eraill, mae addoli ar y cyd yn rhan hanfodol o fywyd crefyddol, nid dim ond rhywbeth ychwanegol.

Rhagor o fanylion

Mae’r pandemig COVID-19 presennol yn amlwg yn galw am gyfyngiadau eithriadol i ddiogelu iechyd unigolion ac iechyd cymdeithas yn ei chyfanrwydd. Fodd bynnag, mae iechyd ysbrydol ac iechyd meddwl pobl grefyddol hefyd yn hynod bwysig, gan arwain at sgil-effeithiau eang ar gymdeithas. Wrth drafod ailagor lleoliadau ymarfer corff, lleoliadau adloniant ac ati, mae hefyd angen rhoi sylw brys i ailagor adeiladau ar gyfer addoli ar y cyd, er mwyn galluogi’r agwedd hanfodol hon ar fywyd i ailddechrau ar gyfer pobl o ffydd grefyddol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

416 llofnod

Dangos ar fap

5,000