Deiseb a wrthodwyd Dylid lleihau gofynion cadw pellter cymdeithasol i blant, fel y gallant gyfarfod a chwarae yn yr awyr agored yr haf hwn

Mae fy merch yn 7 oed ac yn unig blentyn. Mae’n dweud “Rwy’n colli cael chwarae gyda fy ffrindiau. Gawn ni newid y rheolau fel fy mod yn cael mynd i'r parc gyda fy ffrindiau yr haf hwn?"

Mae plant Cymru wedi dioddef cyfnod maith o gyfyngiadau symud, heb gysylltiad â’u cyfoedion. Mae plant yn rheoli eu hiechyd meddwl a'u lles eu hunain drwy chwarae. Mae'n hanfodol ar gyfer datblygiad iach.

Dylai Cymru ganiatáu i blant gyfarfod a chwarae gyda'u ffrindiau yn yr awyr agored yr haf hwn. Mae'r risgiau'n fach, ac mae'r manteision yn enfawr.

Rhagor o fanylion

Mae’r manteision o blant yn chwarae yn yr awyr agored yn ystod pandemig y coronafeirws yn fwy na'r risgiau, yn ôl papur ymchwil newydd a ysgrifennwyd gan yr Athro David Ball, Tim Gill ac Andy Yates. Maent yn dangos:

Mae chwarae y tu allan yn dod â llu o fanteision cymdeithasol, emosiynol a chorfforol i blant. Mae'r rhain wedi cael eu tanbrisio ers amser maith ac, ar yr adeg hon ymddengys eu bod wedi cael eu hanwybyddu'n llwyr. O ganlyniad, mae plant yn dioddef niwed. Y dystiolaeth yw bod risgiau COVID 19 i blant sy'n chwarae yn yr awyr agored yn isel iawn. Mae gwneud penderfyniadau cymesur yn ei gwneud yn ofynnol bod cyfaddawdau rhwng risgiau a buddion ymyriadau diogelwch yn rhan o'r broses benderfynu. Y dystiolaeth gryno yw bod polisi cyfredol y DU yn llawer mwy niweidiol na buddiol i blant.

Papur Fforwm Chwarae: https://bit.ly/3dQC0JC

Crynodeb o ddata risg gan yr Athro David Spiegelhalter:
https://bit.ly/2AqQkeh

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Cafodd y ddeiseb hon ei thynnu yn ôl gan y deisebydd.

Yn sgil cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ar 31 Gorffennaf na fydd rhaid i blant dan 11 oed ddilyn Pellter Cymdeithasol o 2 fedr mwyach, penderfynodd y deisebydd dynnu'r ddeiseb yn ôl.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi