Deiseb a wrthodwyd Caniatáu cysylltiad corfforol rhwng pobl o aelwydydd gwahanol, ar wahân i aelwydydd estynedig.

Er bod pobl Cymru yn awr yn gallu ymuno ar ffurf aelwyd estynedig, nid yw hyn yn caniatáu i gyplau sy’n dal i fyw gyda’u teuluoedd gael cysylltiad corfforol â’u partner sy’n byw ar aelwyd arall.
Drwy gyfyngu aelwydydd i gysylltu dim ond ag aelwyd arall, mae llawer yn dal i gael eu hamddifadu o’r cyfle i gwrdd yn gorfforol â’u partner, gan fod yr aelwyd estynedig y dewisir ei chreu’n dibynnu ar anghenion/dymuniadau eu haelwyd. Gall hyn effeithio’n niweidiol ar eu lles.

Rhagor o fanylion

Mae disgwyl i lawer o’r cyplau hyn ddychwelyd i’w gwaith, ond nid ydynt yn cael cyfle i ddiwallu eu anghenion o ran cariad a pherthyn, sef dau o’r anghenion sylfaenol y cyfeiriodd Maslow atynt ym 1943 yn ei bapur ar gymhelliant dynol. Gall hyn effeithio ar les unigolion a’u gallu i reoli’r straen digynsail sy’n codi o sefyllfa economaidd-gymdeithasol bresennol y wlad.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi