Deiseb a wrthodwyd Dylid caniatáu i briodasau gael eu cynnal ynghyd â gwleddoedd priodas llawn ar gyfer uchafswm o 100 o bobl.
Teimlaf ei bod yn bryd ailystyried mater gwleddoedd priodas. Mae'n rhaid i lawer ganslo eu digwyddiad unwaith-mewn-oes, ac er bod rhai wedi gallu aildrefnu, gallai hyn fod wedi bod yn amhosibl i eraill. Trwy wahoddiad yn unig y mae rhywun yn mynd i briodas, felly, pe bai rhywun yn dechrau dangos symptomau, gellid olrhain pawb o fewn oriau. Mae fel arfer un i ddau fetr rhwng y byrddau (fel mewn bwyty), ac mae teuluoedd yn eistedd gyda'i gilydd.
Rhagor o fanylion
Gyda llywodraethau bellach yn penderfynu ailagor tafarndai, bwytai, sinemâu, theatrau a lleoliadau eraill lle bydd dieithriaid yn ymgymysgu, mae'r penderfyniad i barhau i wahardd gwleddoedd priodas yn ymddangos yn afresymegol.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi