Deiseb a gwblhawyd Dylid gorfodi gwisgo mygydau/gorchuddion wyneb mewn siopau.
Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio ym maes manwerthu ac, er gwaethaf ymdrech gynhwysfawr iawn gan fy nghyflogwr, nid yw’r camau diogelwch sydd ar waith yn ddigon os yw cwsmer yn penderfynu anwybyddu’r rheolau. Byddai gorfodi gwisgo gorchuddion wyneb y tu mewn i siopau’n ffordd deg ac effeithiol o ddiogelu staff a chwsmeriaid ymhellach.
Rhagor o fanylion
Bydd gwisgo gorchuddion wyneb mewn siopau’n helpu i atal trosglwyddo Covid 19 ac, yn ogystal ag ymdrechion cadw pellter cymdeithasol a hylendid, bydd yn diogelu staff a chwsmeriaid ymhellach.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon
Penderfynodd y Pwyllgor Deisebau beidio â chyfeirio’r ddeiseb hon ar gyfer dadl
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ar 15 Medi 2020. Nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddai defnyddio gorchuddion wyneb yn orfodol mewn siopau o 14 Medi ymlaen: https://llyw.cymru/cyfyngu-ymhellach-ar-gwrdd-yn-gymdeithasol-gorfodi-gorchuddion-wyneb-i-helpu-i-atal-argyfwng
O ganlyniad, penderfynodd y Pwyllgor na ddylid cyfeirio'r ddeiseb ar gyfer ddadl.