Deiseb a gwblhawyd Mynnu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi’i halogi’n radiolegol yn nyfroedd Cymru.

Rydym ni, sy’n llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 mewn perthynas ac ansicrwydd, a sicrhau bod Asesiad llawn o’r Effaith Amgylcheddol yn cael ei gynnal cyn bod modd gwaredu unrhyw waddod pellach o orsaf pŵer niwclear Hinkley Point yn Cardiff Grounds.
Peidiwch â gadael i Lywodraeth Cymru dorri ei chyfraith ei hun!

Rhagor o fanylion

Rhaid i’r asesiad o’r effaith amgylcheddol ddarparu
Data sylfaenol manwl am ymddygiad a thynged deunydd sy’n cael ei waredu yn Cardiff Grounds;
Dadansoddiad radiolegol llawn, gan gynnwys allyrru gronynnau alffa;
Asesiad manwl a chyfoes o effeithiau radiolegol posibl ar boblogaeth de Cymru;
Rheoli llygryddon niwclear ar y tir yn hytrach na’u gwasgaru ar y môr;
Parchu cytundebau ynghylch gwaredu morol;
Gwarchod Afon Hafren.
Rydym hefyd yn galw ar y Senedd nad oes buddiannau niwclear yn dylanwadu ar yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

10,692 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 21 Hydref 2020

Gwyliwch y ddeiseb ‘Mynnu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi’i halogi’n radiolegol yn nyfroedd Cymru.’ yn cael ei thrafod

Trafodwyd y ddeiseb gan y Senedd yn y Cyfarfod Llawn ar 21 Hydref 2020

Busnes arall y Senedd

Cyhoeddiad gan EDF Hinkley Point C

Ar 2 Hydref 2020, cyhoeddodd prosiect Hinkley Point C ei fod wedi penderfynu cynnal Asesiad Effaith Amgylcheddol llawn fel rhan o'i gais am drwydded i waredu mwd a garthwyd ym Môr Hafren.

Gallwch ddarllen rhagor o fanylion yma: https://www.edfenergy.com/energy/nuclear-new-build-projects/hinkley-point-c/news-views/update-on-mud-dredging