Deiseb a wrthodwyd Cysonwch y Dreth Trafodiadau Tir â gostyngiad Llywodraeth y DU yn y Dreth Stamp i roi hwb i’r economi
Mae’r canghellor wedi cyhoeddi seibiant dros dro ar y dreth stamp ar £500,000 cyntaf yr holl werthiant eiddo yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn dod i rym ar unwaith a bydd mewn grym tan fis Mawrth y flwyddyn nesaf. Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu’r un peth i roi hwb i’r farchnad eiddo a helpu prynwyr sy’n cael trafferth oherwydd argyfwng y coronafeirws.
Rhagor o fanylion
Mae angen hyn ar adeiladwyr cartrefi Cymru, trigolion Cymru a’r holl bobl a gyflogir yn y sector ac economi ehangach Cymru i roi hwb i’r farchnad dai.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Cafodd y ddeiseb hon ei thynnu yn ôl gan y deisebydd.
Yn sgil cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ar 14 Gorffennaf 2020 ynghylch newidiadau i'r Dreth Trafodiadau Tir, penderfynodd y deisebydd dynnu'r ddeiseb yn ôl.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi