Deiseb a gwblhawyd Galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â symud, difrodi na dinistrio unrhyw symbolau hanesyddol yng Nghymru.

Yn sgil protestiadau diweddar Black Lives Matter, mae Llywodraeth Cymru yn ailasesu priodoldeb cerfluniau, adeiladau cyhoeddus ac enwau strydoedd sydd â chysylltiadau â chaethwasiaeth.
Credwn na ddylai unrhyw awdurdod cyhoeddus symud, difrodi na dinistrio unrhyw un o'r pethau hyn.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

415 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Busnes arall y Senedd

Ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

Mae’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn cynnal ymchwiliad ynghylch 'Pwy sy'n cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus?' Bydd yn ystyried y modd mae cymdeithas yn penderfynu pwy ddylid eu coffáu mewn mannau cyhoeddus, a sut neu a ddylai penderfyniadau newid yn unol ag agweddau’r oes sydd ohoni.

Mae'r Pwyllgor yn ceisio barn ar ba egwyddorion y dyild eu defnyddio i benderfynu pa unigolion sy’n cael eu coffáu, a pha brosesau i’w dilyn petai pobl eisiau i achosion unigol gael eu tynnu i lawr neu eu newid.

Am fwy o wybodaeth am sut i gyfrannu eich barn: https://busnes.senedd.cymru/mgConsultationDisplay.aspx?ID=404