Deiseb a wrthodwyd Gwneud masgiau wyneb yn orfodol (gydag eithriadau meddygol) ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru!

Mae masgiau wyneb yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond yng Nghymru, dim ond "argymhelliad" yw gwisgo masg o’r fath.
Mae nifer o astudiaethau bellach yn cael eu cyhoeddi sy’n dweud bod masgiau wyneb yn lleihau’r risg o drosglwyddo’r feirws o 40%+,¹,² a bod y risg o ledaenu’r feirws yn fwy y tu mewn,³ ac ati.
Dylid sicrhau ein bod ni’n gweithredu’n unol â gweddill y DU, drwy wneud masgiau wyneb yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Rhagor o fanylion

[1] Esbonnir yma fod masgiau wyneb yn lleihau cyfradd twf dyddiol yr heintiau sy’n cael eu cofnodi tua 40 y cant. https://www.iza.org/publications/dp/13319/face-masks-considerably-reduce-covid-19-cases-in-germany-a-synthetic-control-method-approach, Mehefin 2020.
[2] Gwnaeth y cam o gyflwyno masgiau wyneb leihau trosglwyddiad yn sylweddol dros nos mewn gwahanol leoedd ac ar wahanol raddfeydd https://www.pnas.org/content/117/26/14857, Mehefin 2020. Esbonnir yma eu bod ond wedi gweld cyfraddau heintiau yn yr Eidal ac yn ninas Efrog Newydd yn dechrau arafu ar ôl i fasgiau wyneb gael eu gwneud yn orfodol, ac nid ar ôl i’r cyfyngiadau symud gael eu rhoi ar waith yn yr Eidal neu ar ôl i’r gorchmynion i aros gartref gael eu rhoi ar waith yn ninas Efrog Newydd.
[3] Esbonnir hefyd fod yr ods o achos sylfaenol o COVID-19 yn cael ei drosglwyddo mewn amgylchedd caeedig 18.7 gwaith yn fwy o'i gymharu ag amgylchedd awyr agored. https://www.medrxiv.org/content/10.1101/2020.02.28.20029272v2 Ebrill 2020.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Cafodd y ddeiseb hon ei thynnu yn ôl gan y deisebydd.

Yn sgil cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ar 13 Gorffennaf 2020 y bydd disgwyl i pob teithiwr gwisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru o ddydd Llun 27 Gorffennaf, penderfynodd y deisebydd dynnu'r ddeiseb yn ôl.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi