Deiseb a wrthodwyd Dylid codi’r cyfyngiadau i hyfforddwyr gyrru yng Nghymru allu ailddechrau gweithio.

Dylid gofyn i Lywodraeth Cymru pam nad ydynt wedi caniatáu i Gymru ddychwelyd i'r gwaith tra bod Lloegr wedi cael dychwelyd. Mae’r cyfathrebu gan yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) yn ystod y cyfnod hwn wedi bod yn ofnadwy: dau e-bost. Ni allwn ddychwelyd i'r gwaith, ond caniateir dau o bobl mewn car/fan/lori ar gyfer proffesiynau eraill. Mae rhai hyfforddwyr gyrru heb ennill ceiniog ers iddynt stopio gweithio ym mis Mawrth.

Rhagor o fanylion

Yn bersonol, ni allaf hawlio credyd cynhwysol am fod fy mhartner yn gweithio, a chefais swm bach o arian o'r grant treth; ni allwn wneud cais am hyd yn oed wythnos o gyflog.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Cafodd y ddeiseb hon ei thynnu yn ôl gan y deisebydd.

Yn sgil cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ar 15 Gorffennaf y bydd gwersi gyrru yn ailddechrau yng Nghymru o 27 Gorffennaf ymlaen, penderfynodd y deisebydd dynnu'r ddeiseb yn ôl.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi