Deiseb a gwblhawyd Cynnal ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer y Ganolfan Ganser Velindre newydd arfaethedig.

Byddai £30M yn cael ei wario ar ffyrdd yn unig i gael mynediad i'r tir y bwriedir adeiladu’r Ganolfan newydd arno. Mae mynediad ar gael eisoes yn hen Ysbyty'r Eglwys Newydd a safle presennol Velindre, ac maent yn ddewisiadau amgen hyfyw.
Nid yw'r cynllun presennol yn unol ag arfer gorau ar gyfer gofal canser cydgysylltiedig modern, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gyda gwasanaethau wedi’u cysylltu’n gorfforol ag ysbytai acíwt mwy. Cynigiodd Ysbyty’r Mynydd Bychan le i Velindre ochr yn ochr â chanolfan ymchwil canser Prifysgol Caerdydd yn ei hadeilad newydd sydd i fod i ddechrau cael ei adeiladu yn 2023.

Rhagor o fanylion

Byddai Bwrdd Iechyd Prifysgol Velindre yn cyfnewid eu tir presennol (safle ysbyty'r Eglwys Newydd) am dir y ddôl, (sy'n eiddo i Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro). Byddai angen gwario £30M o arian trethdalwyr i adeiladu ffyrdd mynediad er mwyn i waith adeiladu allu digwydd ar y ddôl hon sydd wedi'i thir-gloi gan ei bod yn gysylltiedig â Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI).
Byddai cael gwared â’r Northern Meadows yn hynod niweidiol i les corfforol a meddyliol.
Mae triniaeth canser wedi dod yn fwy cymhleth, ac mae gan gleifion sy'n cael triniaeth faterion cynyddol gymhleth. Byddai lleoli’r adeilad yn y Mynydd Bychan, ochr yn ochr â chanolfan ymchwil canser Prifysgol Caerdydd, yn darparu mynediad cyflym i ofal dwys ac arbenigeddau meddygol a llawfeddygol allweddol eraill pan fydd eu hangen ar gleifion.
Mae model arfaethedig Canolfan Ganser Velindre wedi dyddio ac mae’n rhaid craffu arno. Ystyrir bod gwasanaethau cymorth meddygol a llawfeddygol ar y safle yn HANFODOL: https://www.england.nhs.uk/east-of-england/wp-content/uploads/sites/47/2019/08/Independent-Clinical-Panel-Report. pdf
https://savethenorthernmeadows.wales/?page_id=1129

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

5,241 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 3 Mawrth 2021

Gwyliwch y ddeiseb ‘Cynnal ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer y Ganolfan Ganser Velindre newydd arfaethedig.’ yn cael ei thrafod

Trafodwyd y ddeiseb gan y Senedd yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Mawrth 2021

Busnes arall y Senedd

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Yn ystod y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Medi 2020, cododd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y cynigion i ddatblygu Canolfan Ganser newydd yn Felindre gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Prif Swyddog Meddygol.

Gallwch ddarllen y trawsgrifiad yma: https://cofnod.senedd.cymru/Committee/6443#C313015

Gallwch wylio’r sesiwn yma: http://www.senedd.tv/cy/6443?startPos=98&l=cy