Deiseb a gwblhawyd Gwnewch hyfforddiant adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) yn orfodol mewn ysgolion

Cyhoeddwyd y llynedd na fyddai hyfforddiant CPR yn rhan o'r cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru. Mae hyn yn wahanol i Loegr a'r Alban, lle mae hyfforddiant CPR yn cael ei wneud yn orfodol mewn ysgolion. Er bod Kirsty Williams wedi dweud nad oes dim byd yn rhwystro ysgolion rhag addysgu CPR, ni fydd y Senedd yn gorfodi hyn. Rydym yn pryderu y bydd hyn yn peri i rai ysgolion beidio â darparu mynediad at hyfforddant i ddysgu'r weithdrefn achub bywyd, gan arwain at gynnydd yn nifer y marwolaethau o ganlyniad i ataliad y galon yng Nghymru.

Rhagor o fanylion

Mae llawer o dystiolaeth i ddangos bod adnabod ataliad y galon yn gynnar a darparu CPR yn gwella'r cyfraddau goroesi yn dilyn ataliad. (1) Fodd bynnag, nodwyd bod petrustod ymhlith y cyhoedd yn broblem. (2) y prif reswm am hyn oedd ofn achosi anafiadau ychwanegol oherwydd diffyg sgiliau priodol. Yn ogystal, canfuwyd bod y tebygolrwydd y byddai rhywun yn cael CPR yn cael ei ddylanwadu gan oedran a rhyw y dioddefwr.
Mae'r rhain yn faterion na ellir mynd i'r afael â hwy a'u brwydro oni bai bod hyfforddiant digonol ledled HOLL ysgolion Cymru, a gobeithiwn y bydd y Senedd yn cymryd camau priodol i gefnogi ei ddinasyddion.

1. Ibrahim W. Recent advances and controversies in adult cardiopulmonary resuscitation. Postgraduate Medical Journal. 2007;83(984):649-654.
2. Becker T, Gul S, Cohen S, Maciel C, Baron-Lee J, Murphy T et al. Public perception towards bystander cardiopulmonary resuscitation. Emergency Medicine Journal. 2019;36(11):660-665

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,170 llofnod

Dangos ar fap

10,000