Deiseb a gwblhawyd Dylid rhoi seibiant treth stamp o ran pob tŷ sy’n cael ei brynu yng Nghymru

Mae’n annheg nad yw Llywodraeth Cymru yn gweithredu fel gweddill y Deyrnas Unedig o ran y seibiant treth stamp a gyhoeddwyd gan y Canghellor ar 8 Gorffennaf. Ar hyn o bryd mae’r seibiant yn gymwys i brynwyr am y tro cyntaf neu i bobl sy’n symud i fyny’r ysgol eiddo yn unig yng Nghymru. Byddai o fwy o fudd i’r economi pe bai’r seibiant hwn yn gymwys i landlordiaid posibl, neu i deuluoedd sy’n awyddus i brynu cartref gwyliau, neu achosion eraill. Yn Lloegr gellir gwneud arbediad o £15,000 ond yng Nghymru yr arbediad mwyaf y gellir ei wneud yw £2,450. Pam ydyn ni yn gymydog tlawd bob amser!!!

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

53 llofnod

Dangos ar fap

5,000