Deiseb a wrthodwyd Atal y Senedd rhag gwahardd ysmygu yn yr awyr agored.

Dylid atal y Senedd rhag gwahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus h.y. tafarndai, canol trefi a pharciau awyr agored. Nid yw ysmygu’n anghyfreithlon, a pherir i ysmygwyr deimlo fel pobl ysgymun yn ein cymdeithas. Mae gwahardd ysmygu yn cymryd yr hawl i ddewis oddi ar yr unigolyn.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi