Deiseb a gwblhawyd Rhowch godiad cyflog i nyrsys yn unol â’r hyn a roddir i staff rheng flaen eraill yn ystod pandemig COVID-19

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi codiad cyflog o 2.8 y cant i feddygon a deintyddion, gan ddatgan bod y codiad cyflog 'yn adlewyrchu ymrwymiad y bobl sy’n gweithio'n galed i ofalu amdanom'.
Fodd bynnag, nid yw staff nyrsio wedi cael eu cynnwys yn y codiad cyflog hwn, er y gwaethaf y ffaith y gwnaeth llawer ohonynt gael y feirws wrth ymgymryd â’u gwaith.
Fel nyrs iechyd meddwl newydd gymhwyso, rwy'n gofyn i'r Senedd ailystyried y penderfyniad hwn ac i gydnabod ymroddiad staff nyrsio drwy roi iddynt y codiad cyflog y maent yn ei haeddu.

Rhagor o fanylion

Y cyfiawnhad am beidio â chynnwys staff nyrsio yn y codiad cyflog hwn yw ein bod eisoes yn cael codiad cyflog o 6.2 y cant dros gyfnod o dair blynedd, sef codiad cyflog y byddem wedi'i gael beth bynnag ac nid at ddibenion cydnabod ein gwaith caled yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Mae dwy ran o dair o'r nyrsys sydd wedi cael eu heintio gan Covid-19 yn parhau i ddioddef sgil-effeithiau'r feirws wrth gyflawni eu dyletswyddau fel nyrsys (Nursing Times, 2020).
Ar adeg y ddeiseb hon, mae dros 200 o staff y GIG, gan gynnwys nyrsys, wedi marw o’r coronafeirws yn y DU (The Guardian, 2020). Mae hyn yn dangos bod staff nyrsio yn barod i wneud yr aberth eithaf er mwyn gofalu am ein cleifion, ond eto nid ydynt yn cael codiad cyflog yn unol â chydweithwyr sydd hefyd yn gweithio'n galed.
Yn ôl dadansoddiad diweddaraf Llywodraeth y DU o ddata yn ymwneud â chyfraddau heintio y coronafeirws, sef dadansoddiad a wnaed ym mis Ebrill 2020, roedd 16.2 y cant o'r rhai a heintiwyd yn weithwyr allweddol, gan gynnwys staff nyrsio. Mae’r ffigur hwn yn cyfrif am bron i un rhan o bump o'r achosion sydd wedi’u cadarnhau (y Ganolfan Meddygaeth Seiliedig ar Dystiolaeth, 2020).

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

2,078 llofnod

Dangos ar fap

5,000