Deiseb a gwblhawyd Dylai Cymru arwain ar ddod â chyflogau’r GIG nôl i fod yn unol â chostau chwyddiant dros y 10 mlynedd diwethaf.

Ers mis Ebrill 2010, mae cyflogau rhai aelodau o staff y GIG wedi gostwng cymaint â 20.51% yn unol â chwyddiant.
Mae’n bryd i Lywodraeth Cymru drafod taro bargen newydd ar gyflogau a fydd yn digwydd yn 2021 a lleihau’n sylweddol neu ddileu’r golled y mae gweithwyr rheng flaen wedi’i dioddef dros y 10 mlynedd diwethaf.
Y tro diwethaf i ni gael codiad cyflog, roedd yn efelychiad o fargen San Steffan! Mae’n bryd i Lywodraeth Cymru gymryd y camau cyntaf a rhoi’r fargen y mae’r GIG yn ei haeddu.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

190 llofnod

Dangos ar fap

10,000