Deiseb a gwblhawyd Rhowch y £7 miliwn yn ôl yn y gronfa Trawsnewid Iechyd Meddwl.
Cyhoeddwyd yr adroddiad Cadernid Meddwl o ganlyniad i ymchwiliad eang i iechyd emosiynol ac iechyd meddwl. Mae'n nodi bod angen brys i fuddsoddi mewn gwasanaethau ataliol, system gyfan ac ymyrraeth gynnar.
Mae dirfawr angen diwygio a moderneiddio gwasanaethau iechyd meddwl. Bydd tynnu £7 miliwn o'r gronfa hon yn oedi’r newid hwn.
Rhagor o fanylion
Yn 2018, llofnododd 93 o Seicolegwyr, Therapyddion, Cynghorwyr a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru lythyr yn gofyn i Lywodraeth Cymru weithredu'r newidiadau a argymhellir yn adroddiad Cadernid Meddwl - http://www.psychchange.org/support-the-mind-over-matter-report.html
Mae'r pandemig byd-eang wedi effeithio ar bawb. Mae llawer ohonom wedi wynebu trallod oherwydd COVID-19, a bydd llawer yn parhau i’w wynebu. Fodd bynnag, bydd yr effaith cryn dipyn yn fwy ar bobl sydd hefyd yn wynebu unigedd, ansicrwydd am eu swyddi, tlodi bwyd, neu sy'n byw ar aelwyd gamdriniol neu aelwyd dan straen.
Mae blynyddoedd cynnar bywyd yn hanfodol, ond mae plant yn byw mewn amgylchiadau na allant eu newid. Ni allant feddwl eu ffordd allan o’u problemau; maent yn dibynnu ar yr oedolion a'r gymuned o'u cwmpas.
Enw arall ar y gronfa trawsnewid iechyd meddwl yw’r Gronfa Gwella Gwasanaethau Iechyd Meddwl. Y gronfa honno y cyfeirir ati yn y ddeiseb hon.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon