Deiseb a gwblhawyd Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011

Mae cymunedau yng Nghymru yn parhau i golli asedau cymunedol fel tafarndai a meysydd chwaraeon ar gyfradd frawychus. Yn wahanol i Loegr a’r Alban, nid oes gan gymunedau yng Nghymru hawl statudol i wneud cais i brynu asedau o’r fath.
Mae arnom angen deddfwriaeth newydd ynghylch asedau o werth cymunedol yn benodol. Rydym yn galw ar y Llywodraeth nesaf yng Nghymru i weithredu ar unwaith y darpariaethau yn Rhan 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 i sicrhau bod gan grwpiau yng Nghymru yr hawl gyfreithiol i brynu a rheoli asedau cymunedol.

Rhagor o fanylion

Mae asedau cymunedol yn adeiladu cyfalaf cymdeithasol, iechyd a llesiant. Mae colli asedau cymunedol yn arwain at gymunedau gwannach, cymunedau llai cysylltiedig a chymunedau llai hapus.
Rhoddodd Rhan 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 yr hawl gyfreithiol i grwpiau cymunedol wneud cais am asedau o werth cymunedol sydd o dan fygythiad neu sydd ar fin cael eu gwerthu, gan roi’r hawl iddynt redeg yr asedau hyn hefyd. Mae’r Ddeddf hefyd yn ei wneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gadw rhestr o asedau cymunedol o’r fath. Yn yr Alban, grwpiau cymunedol sydd â’r cyfle cyntaf i brynu’r asedau hyn. (https://commonslibrary.parliament.uk/research-briefings/sn06366/).
Fodd bynnag, yng Nghymru, penderfynodd Llywodraeth Cymru beidio â chymhwyso’r rhannau perthnasol o’r Ddeddf a fyddai’n caniatáu hyn. Mae ein cymunedau, felly, o dan anfantais enfawr o’u cymharu â chymunedau yn Lloegr a’r Alban.
Yn 2015, dywedodd y Gweinidog perthnasol y byddai camau’n cael eu cymryd ynghylch asedau o werth cymunedol gan Lywodraeth Cymru rhwng 2016-21, ond ni ddigwyddodd unrhyw beth.
Byddai gweithredu’r darpariaethau perthnasol yn y Ddeddf Lleoliaeth o fudd enfawr i gymunedau yng Nghymru sy’n ysu i achub asedau cymunedol gwerthfawr.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

655 llofnod

Dangos ar fap

10,000