Deiseb a gwblhawyd Caniatáu i Ysgolion Dawns yng Nghymru ailagor ar unwaith ar gyfer gwersi dan do

Ers i’r cyfnod cloi yn y Deyrnas Unedig ddechrau ym mis Mawrth 2020, mae Ysgolion Dawns dan do wedi bod ar gau. Mae gwersi dawns yn cynnig rhyddhad i blant ac oedolion sy’n wynebu llawer o anawsterau, fel diffyg hyder, nerfusrwydd, awtistiaeth, problemau ag aelodau o’r corff ac ati. Dylai Llywodraeth Cymru amlinellu sut y mae ysgolion dawns yn ffitio yn y cynlluniau adfer mewn ymateb i COVID-19, creu pecyn o gymorth ariannol sydd wedi’i deilwra i’r sector dawns ac egluro sut y bydd cymorth yn cael ei roi. Mae angen i Mr Drakeford gyflwyno ei gynlluniau o ran ailddechrau’r sector dawns dan do.

Rhagor o fanylion

Mae llawer o athrawon yn gweithio drwy gyrff llywodraethu fel Bbo Dance, RAD, ISTD ac ati. Caiff llawer o’r rhain eu cydnabod gan Ofqual a Chymwysterau Cymru. Mae’n rhwydd cadw pellter cymdeithasol mewn dosbarth dawns ac mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr ym mhob genre wedi hen arfer â chael eu gosod mewn safleoedd penodol gan eu hathrawon. Nid yw pob genre yn galw am waith gyda phartner, ac mae nifer o ffyrdd creadigol o ymateb i’r gofyniad hwn ta beth. Mae dawns yn dod â buddion gwych o ran iechyd corfforol ac iechyd meddwl, heb sôn am fod yn weithgaredd sy’n destun angerdd i’r athrawon a’r myfyrwyr. Hefyd, mae dawns yn rhan bwysig o ddiwydiant y celfyddydau, ac mae ei rhinweddau o ran busnes, iechyd a hamdden yn cael eu hanwybyddu ar hyn o bryd.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,307 llofnod

Dangos ar fap

5,000