Deiseb a gwblhawyd Sefydlu TGAU Astudiaethau Natur i helpu i baratoi cenedlaethau'r dyfodol i fynd i'r afael â'r bygythiadau sy'n wynebu natur
Nid yw ein byd naturiol erioed wedi wynebu cymaint o heriau a bygythiadau o ganlyniad i waith dyn. Bellach, mae angen creu hanes naturiol Cymru yn fwy nag erioed o’r blaen. Rhaid inni roi'r sgiliau a'r wybodaeth i genedlaethau'r dyfodol, a fyddai'n eu galluogi i fynd i'r afael â llawer o'r materion byd-eang hyn.
Rhaid i ailymgysylltu â'r byd naturiol ddod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Gallai Cymru arwain y ffordd o ran paratoi ein plant gyda'r arfau sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac argyfyngau difodiant rhywogaethau.
Rhagor o fanylion
Cafodd yr alwad am TGAU Astudiaethau Natur ei harwain yn gyntaf gan Mary Colwell a oedd yn credu nad yw pobl ifanc yn y DU ar hyn o bryd yn ymgysylltu â natur ddigon a bod hyn yn effeithio ar gadwraeth a llesiant.
Roedd yr adroddiad eiconig ar Sefyllfa Byd Natur yn seinio rhybudd i bawb na allwn barhau i weithredu yn ôl yr arfer. Rhoddodd rybudd amlwg i ni fod y DU, ers 1970, wedi colli 60 y cant o'i bywyd gwyllt, a bod Prydain yn un o'r gwledydd mwyaf disbyddedig o ran natur yn y byd.
Rhaid inni addysgu pobl ifanc am fygythiadau byd-eang poblogaeth sy'n ehangu; defnyddio plaladdwyr a chwynladdwyr; llygredd tir, dŵr ac aer; yr argyfwng hinsawdd; colli pridd; ffermio dwys yn erbyn ffermio organig; colli cynefin; rhywogaethau goresgynnol; rhywogaethau sydd mewn perygl o ddiflannu a cholli bioamrywiaeth; gorbysgota; plastigau untro; datgoedwigo a chymaint, cymaint mwy.
Rhaid inni addysgu plant bod ein bywydau heddiw ac yfory yn mynd law yn llaw â sicrhau byd naturiol sy’n fywiog, yn doreithiog, ac yn iach.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon