Deiseb a wrthodwyd Gorfodi pobl i wisgo masgiau/gorchuddion wyneb ym mhob ysbyty yng Nghymru
Ar ôl darganfod mai ysbyty benodol oedd y prif reswm dros gynnydd yn nifer yr achosion o COVID-19 mewn rhan benodol o Gymru, es ati i wneud ychydig o ymchwil a darganfod diffyg cysondeb a chryn ansicrwydd ynghylch beth sy’n digwydd o ran masgiau/gorchuddion wyneb. A ddylem ni eu gwisgo? A ddylem ni beidio â’u gwisgo? Nod y ddeiseb hon yw ceisio cael cynifer o bobl sy'n teimlo’r un fath â mi i'w gwneud hi'n orfodol gwisgo masgiau/gorchuddion wyneb mewn ysbytai.
Rhagor o fanylion
Ymwelais â'r ysbyty gyda fy mab yr wythnos diwethaf a chefais wybod y byddai rhywun wrth y brif fynedfa yn darparu masgiau wyneb os nad oedd gan bobl eu masgiau eu hunain. Ai dyna a ddigwyddodd pan es i yno? Na. Yn ffodus roeddem wedi dod â’n masgiau ein hunain, ond pan ofynnais i aelod o staff a allai ddweud wrthym ble i gael masgiau, doedd ganddo ddim syniad! A oedd pawb yn gwisgo masg/gorchudd wyneb pan aethom i mewn? Na! Fodd bynnag, ar ôl siarad â nifer o bobl, rwyf wedi darganfod bod rhywun wedi bod wrth y brif fynedfa ar adegau yn siecio a oes gan bobl fasgiau/gorchuddion wyneb ac os na, mae’n darparu masgiau, ond ar ddiwrnodau eraill nid oes unrhyw un yno. Mae angen i hyn newid. Mae angen ei wneud yn orfodol - mae’n RHAID i bawb sy'n gweithio mewn ysbyty yng Nghymru neu’n ymweld ag un wisgo masg/gorchudd wyneb. Nid yw'n beth mawr i’w ofyn, ond rydw i (ac rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl eraill yn cytuno) am ofyn ein bod ni'n helpu i ddiogelu ein hunain ac eraill, yn enwedig pan rydym ni'n gwybod bod achosion o COVID-19 ar gynnydd mewn ysbytai.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi