Deiseb a gwblhawyd Rhowch gymorth ariannol i unigolion hunangyflogedig yn niwydiant cerddoriaeth fyw Cymru

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi pryd y bydd perfformiadau cerddoriaeth fyw yn gallu ailddechrau ar ôl i’r cyfnod cloi ddod i ben. O ganlyniad, ni all unrhyw un sy’n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth fyw yng Nghymru ennill bywoliaeth. Mae’r Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth yn dod i ben ar 17 Awst. Ar ôl y dyddiad hwnnw, os bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wahardd perfformiadau cerddoriaeth fyw, dylai fod yn orfodol i’r Llywodraeth ddarparu cymorth ariannol uniongyrchol i unigolion hunangyflogedig yng Nghymru sy’n ennill bywoliaeth yn y diwydiant hwn.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

189 llofnod

Dangos ar fap

5,000