Deiseb a gwblhawyd Rhowch statws “gweithiwyr allweddol” i bractisau deintyddol a'u staff

Yn ystod cyfnod cychwynnol y Coronafeirws, er syndod mawr i bractisau deintyddol, cawsom ein categoreiddio fel sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau meddygol nad ydynt yn rai hanfodol, a hynny er gwaethaf y ffaith ein bod yn achub bywydau drwy ddarparu gofal brys i bobl sydd wedi’u heintio a thrwy ganfod achosion o ganser y geg yn gynnar. Mae risgiau systemig enfawr yn gysylltiedig ag iechyd y geg gwael na ellir eu hanwybyddu. Yn ogystal, nid ydym am fod mewn sefyllfa eto lle gallai ein cleifion orfod dioddef poen yn sgil rheoliadau gan Lywodraeth Cymru sy’n cyfyngu'n ddifrifol ar yr ystod o driniaethau brys sy'n bosibl.

Rhagor o fanylion

Am ddegawdau, mae deintyddiaeth wedi arwain y ffordd o ran rheoli achosion o draws-heintio a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE). Ynghyd â chreu mannau aros lle gellir cadw pellter cymdeithasol, mae practisau deintyddol bellach wedi sicrhau bod ganddynt PPE o’r radd flaenaf, gan gynnwys anadlyddion a gynau llawn, a hynny er mwyn sicrhau eu bod yn amddiffyn eu hunain, eu staff a'u cleifion, gan liniaru'r risgiau waeth beth yw’r gyfradd heintio yn yr ardal dan sylw.

A wnewch chi gefnogi ein hymdrechion i barhau i ofalu am ein cleifion a darparu’r triniaethau deintyddol yr ydym yn barnu eu bod yn briodol, hyd yn oed os bydd cyfyngiadau symud lleol neu genedlaethol yn cael eu hailgyflwyno?

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

233 llofnod

Dangos ar fap

5,000