Deiseb a wrthodwyd For Welsh Government to make it mandatory that Welsh wool to be used as insulation in new builds.

Welsh wool value is at an all time low. And in some cases for farmers it more viable to burn it on site than try to sell it to British Wool. Wool is a natural product with a high U value, which makes it an ideal building insulator to reduce energy costs.

Rhagor o fanylion

Wool is already used in some building projects in the U.K. as a heat insulator. We could be world leaders in this industry in Wales.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Mae’n ymwneud â rhywbeth nad yw’r Senedd na Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cadarnhau graddau pŵer y Senedd i wneud cyfreithiau newydd a diwygio cyfraith bresennol (a elwir hefyd yn gymhwysedd deddfwriaethol). Mae Atodlenni 7A and 7B o Ddeddf 2006 yn nodi’r materion sy’n gyfyngedig neu a gedwir yn ôl - h.y. meysydd lle y caiff Senedd y DU, nid Senedd Cymru, ddeddfu.

Mae’r cyfrifoldeb am bolisi cystadlu yn fater a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU. Mae’n debygol y byddai deddfu i’w gwneud yn orfodol mai dim ond gwlân Cymreig y gellid ei ddefnyddio wrth inswleiddio adeiladau newydd yn cael ei ystyried yn arfer gwrth-gystadleuol, ac felly nid oes modd i’r Senedd gymryd y camau y mae eich deiseb yn galw amdanynt.

Efallai yr hoffech ystyried gofyn i Lywodraeth Cymru annog y defnydd o wlân Cymreig at y diben hwn.

Mae rhagor o wybodaeth am bwerau deddfwriaethol y Senedd i’w gweld yma:
https://senedd.wales/cy/abthome/role-of-assembly-how-it-works/Pages/Powers.aspx

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi