Deiseb a gwblhawyd Dylai Llywodraeth Cymru ail-brynu ac adnewyddu Coleg Harlech

Mae Coleg Harlech yn cynnwys cyfadeilad gweinyddol a theatr llawn cymeriad, llyfrgell, ystafell gynadledda, nifer o ystafelloedd darlithio ac ystafelloedd cyfrifiaduron, campfa, neuadd breswyl deg llawr, neuadd fwyta a thŷ clwb ac mae'n sefyll mewn safle mawreddog ar fryn ger castell Harlech yng Ngwynedd. Sefydlwyd y coleg ym 1927 fel coleg addysg bellach i'r rheini o gefndir dosbarth gweithiol. Cafodd ei werthu i brynwr preifat yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cafodd ei ddodrefn eu tynnu ac mae bellach ar werth eto.

Mae Coleg Harlech yn gysyniad unigryw gyda hanes unigryw sydd wedi'i osod mewn lleoliad hanesyddol unigryw; mae'n drysor cenedlaethol Cymreig sydd yn y broses o gael ei ddatgymalu a'i werthu fesul adeilad i'r cynigydd uchaf er mwyn ei ddatblygu.

Rhagor o fanylion

Bydd y byd ar ôl Covid-19 yn hollol wahanol i'r byd cyn Covid-19 yr oeddem yn gyfarwydd ag ef. Bydd economïau’n cael eu dinistrio - rydym eisoes yn gweld hynny’n dechrau digwydd, a bydd angen ailadeiladu cenhedloedd ac economïau. Mae synnwyr cyffredin yn dweud y bydd angen yr holl offer posibl, a hynny’n offer dynol ac offer adeiladu, er mwyn ailadeiladu cenhedloedd a'u heconomïau. Os caiff Coleg Harlech ei adnewyddu i'w hen ogoniant, bydd ganddo’r holl ofynion angenrheidiol ar gyfer hyfforddi ein pobl ddi-waith i ddatblygu’r holl sgiliau ymarferol, technegol a phroffesiynol sydd eu hangen i ailadeiladu strwythur ac economi ein cenedl er budd a ffyniant cyfartal pawb.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

6,666 llofnod

Dangos ar fap

10,000