Deiseb a gwblhawyd Dyfarnwch raddau a ragwelwyd gan athrawon i holl fyfyrwyr Cymru ar gyfer arholiadau 2020

Mae nifer sylweddol o fyfyrwyr Cymru wedi bod dan anfantais annheg oherwydd yr algorithm mathemategol a gymhwyswyd iddynt ar gyfer canlyniadau arholiadau 2020. Bydd hyn yn rhoi pobl ifanc Cymru dan anfantais ar gyfer eu cyfleoedd bywyd yn y dyfodol, sy’n annheg. Mae myfyrwyr yn yr Alban yn cael graddau a ragwelwyd gan athrawon, felly byddant yn fwy tebygol o sicrhau lle yn eu dewis cyntaf o brifysgol yn 2020. Ni fydd hyn yn wir i fyfyrwyr Cymru. Nid yw’r broses yn trin myfyrwyr Cymru fel unigolion.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

28,505 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Penderfynodd y Pwyllgor Deisebau beidio â chyfeirio’r ddeiseb hon ar gyfer dadl

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ar 15 Medi 2020 gan nodi fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ar 17 Awst y bydd graddau Safon Uwch, Safon UG, TGAU, Tystysgrif Her Sgiliau a Bagloriaeth Cymru yng Nghymru bellach yn cael eu dyfarnu ar sail Graddau Asesu Canolfannau: https://llyw.cymru/datganiad-gan-kirsty-williams-y-gweinidog-addysg

O ganlyniad, nododd y Pwyllgor lwyddiant y ddeiseb a penderfynnu na ddylid ei chyfeirio ar gyfer dadl.

Busnes arall y Senedd

Gwaith craffu gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi’i adalw i edrych yn fanwl ar y dull a fabwysiadwyd o ran dyfarnu canlyniadau arholiadau eleni. Bydd yn clywed gan Lywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a CBAC. Gweler rhagor o wybodaeth yma:
https://senedd.wales/cy/bus-home/committees/Pages/Committee-Profile.aspx?cid=443 a gwyliwch ei gyfarfod yn fyw yn https://www.senedd.tv

Mae Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i dynnu ei sylw at y ddeiseb hon ac i ofyn am gael ei hystyried fel rhan o’r gwaith o edrych ar y materion hyn. Gellir gweld copi o’r llythyr yma: https://busnes.senedd.cymru/documents/s103966/Cadeirydd%20Y%20Pwyllgor%20at%20Y%20Pwyllgor%20PPIA%2017%20Awst%202020.pdf

Cyhoeddiad Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd graddau Safon Uwch, Safon UG, TGAU, Tystysgrif Her Sgiliau a Bagloriaeth Cymru yng Nghymru bellach yn cael eu dyfarnu ar sail Graddau Asesu Canolfannau. Gellir darllen y datganiad llawn yma: https://llyw.cymru/datganiad-gan-kirsty-williams-y-gweinidog-addysg.