Deiseb a gwblhawyd Y Celfyddydau, Amaethyddiaeth a Dafad y Cynulliad

Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud datganiad yn cefnogi byd amaeth Cymru drwy gomisiynu a chodi cerflun parhaol o ddafad yn y Senedd.

Gwybodaeth Ategol: Rydym yn credu y dylai rôl bwysig ffermwyr a bywyd cefn gwlad yng Nghymru gael ei hanrhydeddu yn fforwm democrataidd uchaf Cymru. Drwy alw am gofeb ar ffurf cerflun rydym yn ceisio hybu amcan Cyngor Celfyddydau Cymru, sef, gwella’r sector celfyddydau economaidd yng Nghymru a mynediad i’r celfyddydau. Mae’r Gymdeithas Gwerthfawrogi Defaid Cymreig yn dod â ffermwyr defaid ac eraill sy’n pryderu am ddulliau amaethyddol traddodiadol ynghyd. Dymunwn dynnu sylw at y ffaith bod gan drefi ar hen ffyrdd y porthmyn gerfluniau o’r fath yn barod.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

17 llofnod

Dangos ar fap

5,000