Deiseb a gwblhawyd Deiseb ynghylch rhyddhau balwnau a llusernau

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddeddfu yn erbyn rhyddhau balwnau a llusernau Tsieineaidd (neu lusernau awyr) i’r awyr yn fwriadol.

Gwybodaeth ychwanegol: Derbyniodd Eco-bwyllgor Rhanbarthol Caerdydd (sy’n cynnwys cynrychiolwyr o eco-ysgolion baner werdd Caerdydd) gynnig yn ddiweddar i weithio tuag at gael deddfwriaeth i atal rhyddhau nifer fawr o falwnau a llusernau Tsieineaidd/llusernau awyr yn fwriadol ar yr un pryd gan eu bod yn cael effaith niweidiol ar fywyd gwyllt, ar y tir ac yn y môr.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

564 llofnod

Dangos ar fap

5,000