Deiseb a gwblhawyd Arwyddion a System Ddraenio ar yr A467
Ddydd Sadwrn, 18 Chwefror 2012, collodd gŵr a thad cariadus ei fywyd ar yr A467 mewn damwain car angheuol – damwain a allai fod wedi’i hosgoi, yn ein barn ni, petai gan y ffordd system ddraenio ddigonol. Byddai system o’r fath wedi sicrhau na fyddai modd i’r holl ddŵr wyneb gasglu ar y ffordd ac achosi i’r cerbyd sglefrio ar y dŵr. Nid oes arwyddion parhaol ar y ffordd ar hyn o bryd sy’n rhybuddio bod perygl o lifogydd arni.
Mae hon yn ffordd ddeuol brysur yng Nghymru a dylid bod ganddi system ddraenio briodol i ymdopi â’r amodau tywydd hyn er mwyn sicrhau diogelwch ar gyfer yr holl fodurwyr sy’n teithio arni.
Rydym yn deisebu i alw am newid y system ddraenio ar hyd y rhan hon o’r ffordd er mwyn sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto ac nad oes yn rhaid i deulu arall ddioddef yn yr un modd. Mae angen codi arwyddion gwell er mwyn rhybuddio modurwyr o’r peryglon. Erfyniwn arnoch i wneud yr ymdrech i lofnodi’r ddeiseb hon – mae pob llofnod wir yn cyfri.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon