Deiseb a gwblhawyd Diogelu’r arfer o addoli ar y cyd fel gofyniad cyfreithiol
Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddiogelu’r arfer o addoli ar y cyd fel gofyniad cyfreithiol ar gyfer ysgolion yng Nghymru.
Mae addoli ar y cyd yn ofynnol yn ôl y gyfraith ym mhob ysgol yng Nghymru ar hyn o bryd, ac; mae’n rhoi cyfleoedd i blant a phobl ifanc ymchwilio i ysbrydolrwydd ac i ystyried materion bywyd; mae’n hyrwyddo lles corfforaethol ysgolion ac yn annog unigolion i lwyddo a, phan fydd siaradwyr allanol o’r gymuned leol yn cymryd rhan, mae’n hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol; mae’n atgyfnerthu agweddau cadarnhaol; mae’n rhoi ymwybyddiaeth o farn drwy’r byd yn ehangach a dealltwriaeth o’r farn honno i blant a phobl ifanc; mae’n gwella llythrennedd crefyddol.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon