Deiseb a gwblhawyd Dewch yn ôl a’n Bws! Deiseb yn erbyn diddymu’r gwasanaethau bws o ddwyrain Llanbedr Pont Steffan, Cwm-ann a Phencarreg
Rydym yn galw am wasanaeth bws ar frys sydd wedi’i drefnu a’i amserlennu’n gywir ar gyfer yr ardaloedd hyn yr effeithiwyd arnynt a byddem yn annog yr asiantaethau llywodraethol o dan sylw i ymrwymo i hyn ar ein rhan, cyn gynted ag sy’n bosibl.
Rhagor o fanylion
Ar 27 Chwefror 2012, dechreuodd Arriva weithredu fel cwmni masnachol yn unig gan roi diwedd ar unrhyw gymhorthdal yr oedd yn ei gael gan gynghorau sir lleol a Llywodraeth Cymru, a newidiodd ei wasanaethau i fod yn ‘wasanaethau cyflym’ yn hytrach na’r gwasanaethau ‘tynnu sylw a chamu ‘mlaen’ blaenorol, sy’n hanfodol yn yr ardaloedd gwledig iawn hyn.
Mae’r cwmni wedi ailbennu llwybr y gwasanaeth X40 blaenorol fel ei fod yn osgoi dwyrain Llanbedr Pont Steffan, Cwm-ann a Phencarreg. Mae hynny’n amddifadu pobl rhag cael mynediad at wasanaethau hanfodol fel eu meddygon teulu, eu deintyddion, swyddfeydd post a siopau, ac yn amharu ar allu pobl i arfer eu rhyddid i symud, mewn perthynas â mynediad at y gwasanaethau uchod.
Mae diddymu gwasanaethau bws rheolaidd wedi cael effaith niweidiol iawn ar allu pob rhan o’n cymunedau i fyw eu bywydau yn ôl eu harfer. Ni ellir gorbwysleisio’r ffaith amlwg bod diogelwch pobl yn cael ei esgeuluso, oherwydd eu bod bellach yn ceisio cerdded ar hyd ffyrdd heb balmentydd ac heb eu goleuo sydd â thraffig cyflym a jygarnotiaid arnynt.
Mae Cynghorau Sir Gâr a Cheredigion yn ceisio ymestyn y cynllun ‘Bwcabus’, sef gwasanaeth a archebir o flaen llaw yn bennaf, ond nad yw ar gael bob amser ac sy’n gweithredu ar hyn o bryd mewn modd nad yw’n gynaliadwy yn economaidd ac sy’n aneffeithlon yn amgylcheddol.
Gan mai Llywodraeth Cymru a chynghorau sir lleol wnaeth y penderfyniad i weithredu’r newidiadau trafnidiaeth hyn, hwy sy’n gyfrifol, o dan eu dyletswydd i ofalu am bobl Cymru, yn enwedig yr henoed a phobl eraill sy’n agored i niwed, am ofalu am y bobl sy’n colli eu hannibyniaeth ac sydd mewn perygl cynyddol o gael eu hynysu. Bydd diffyg gwasanaeth bws digonol hefyd yn effeithio ar yr agweddau economaidd a chymdeithasol ar fywydau pobl, ac ar eu lles.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon