Deiseb a gwblhawyd Dylai Ambiwlans Awyr Cymru gael arian gan y llywodraeth

Ers dros 10 mlynedd, mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi ymateb i fwy na 15,000 o alwadau, gan ddarparu gwasanaeth hanfodol i bobl Cymru. Mae’n debygol ei fod yn aml iawn wedi achub bywydau a fyddai fel arall wedi’u colli o orfod dibynnu ar gerbydau ambiwlans ar y ffordd. Mae’r Ambiwlans Awyr wedi’i ariannu’n llwyr gan roddion gan bobl hael Cymru, ond erbyn hyn mae’r gwasanaeth yn rhan mor hanfodol o’n gwasanaethau argyfwng fel y dylai gael ei ariannu gan Gynulliad Cymru. Bydd y gwasanaeth hyd yn oed yn bwysicach os digwydd rhai o’r newidiadau mewn gwasanaethau Damweiniau ac Argyfwng sy’n cael eu rhagweld. Byddai hynny’n gorfodi rhai pobl yng Nghymru, yn enwedig yn y canolbarth, i deithio hyd at 1½ awr ar hyd y ffordd i gyrraedd eu hadran Ddamweiniau ac Argyfwng agosaf, sefyllfa a fyddai’n peryglu bywyd ac yn annerbyniol. Galwn ar Gynulliad Cymru i ddarparu’r arian angenrheidiol i sicrhau y gall Ambiwlans Awyr Cymru barhau i ddarparu ei wasanaeth rhagorol a hanfodol i bobl Cymru ac i’r niferoedd sy’n ymweld â’r wlad.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

64 llofnod

Dangos ar fap

5,000